Parhau'n rhagorol bob amser mewn rheoli llystyfiant

Buddsoddi mewn peiriannau, cerbydau, sgiliau a phobl

 

Rydym yn eithriadol o ymwybodol am fuddsoddi’n barhaus mewn peiriannau, cerbydau, pobl a sgiliau yma yn Proarb er mwyn parhau’n rhagorol bob amser mewn gwaith rheoli llystyfiant a chadw ein henw da fel un o gwmnïau coedyddiaeth arweiniol y Deyrnas Unedig.

 


Buddsoddi mewn Peiriannau a Cherbydau

I lwyddo yn ein gwaith mae’n rhaid i ni ddibynnu’n aml iawn ar gael y peiriannau cywir ar gyfer y prosiect. Er enghraifft, trwy gael y Flailbot y gallwn ei reoli o bell, gallwn fynd i mewn i ardaloedd serth fyddai’n amhosibl mynd iddynt fel arfer, tra bo ein Izuzu D Max 4 x 4 newydd gyda’r corff tywallt sydd wedi’i deilwra’n arbennig yn gadael i ni weithio mewn mannau anghysbell oedd yn amhosibl mynd iddyn nhw gynt sydd hefyd yn darparu cyfleusterau llesiant.

Yn y mis diwethaf, rydym wedi prynu 5 peiriant asglodion coed newydd Forst TR6 Woodchipper, yr Izuzu 4×4 wedi’i deilwra a pheiriant asglodion coed newydd wedi’i fwydo gan graen — y Crane fed Wood Chipper TP 270.

 


Buddsoddi mewn sgiliau

Bob wythnos bydd rhywun o’r tîm (neu fwy nag un or tîm) yn gwneud cwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD). Mae HSEQ yn newid drwy’r amser ac mae angen i ni sicrhau bod gan ein tîm yr wybodaeth a’r sgiliau diweddaraf bob amser.

 


Buddsoddi yn nhîm Proarb

Yn ogystal â gwella gwybodaeth a sgiliau ein tîm presennol, rydym yn parhau i dyfu tîm Proarb yn unol â gofynion ein prosiectau. Fis yma rydym wedi croesawu Andrew Roberts, Syrfëwr Coedyddiaeth Cyfleustodau, a Guy Payne, Dringwr Coed.