Mae’n gallu bod yn anodd dewis triniwr coed (meddyg coed) i wneud gwaith ar goed eich eiddo – mae cymaint o ddewis am fod nifer fawr ohonyn nhw’n hysbysebu yn y wasg leol. Dylai perchnogion tir ystyried:
A oes gan y cwmni ddiogelwch Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr
A oes gan eu gweithwyr gymwysterau’r Cyngor Profi Medrusrwydd Cenedlaethol sy’n berthnasol i’r gweithgareddau tocio y maen nhw’n eu gwneud
Ydyn nhw’n rhoi dyfynbris y maen nhw’n mynd i gadw ato, ynghyd â’r gwarant cysylltiedig o safon
Ydyn nhw’n aelodau o sefydliad masnach cydnabyddedig
Ydyn nhw’n gwneud eu gwaith tocio i Safonau Prydeinig BS3998