Rheoli Llystyfiant i Gyfleustodau

Cefnogaeth i ddarparu cyflenwad ynni diogel a chyson

Mae Proarb yn brofiadol mewn rheoli llystyfiant i gyfleustodau ac rydym wedi bod yn darparu gwasanaeth clirio llystyfiant o linellau pŵer uchel ers mwy na 16 mlynedd. Trwy weithio gydag ymgymerwyr statudol, fel Scottish Power, rydym yn helpu ein cleientiaid i sicrhau bod y rhwydwaith uwchben yn cael ei gynnal a’i gadw yn unol â gofynion y Rheoliadau Cyflenwad Ansawdd a Pharhad Trydan (ESQCR, 2002).

Ymysg ein prosiectau presennol mae darparu gwasanaeth clirio llystyfiant ar folteddau o 1kv – 400kv. Rydym yn cynnig atebion un contractiwr i gleientiaid — o’r arolwg cychwynnol hyd at ddarpariaeth y diffoddiad.

 


Gwasanaethau Llystyfiant i Gyfleustodau

Y DU gyfan
  • Clirio llystyfiant yn fecanyddol
  • Arolygon llystyfiant ar y rhwydwaith uwchben
  • Gwaith cynnal a chadw cylchol
  • Clirio llystyfiant ETR 132
  • Clirio llystyfiant ENATS 43-8
  • Darparu diffoddiad y rhwydwaith uwchben
  • Mynd i unrhyw ddigwyddiadau neu sefyllfa lle mae rhywbeth wedi mynd o’i le
  • Arolygon llystyfiant manylebau ETR 132
  • Archwiliadau annibynnol o ansawdd a chydymffurfiad
  • Clirio gwaelodion tyrrau
  • Sicrhau cydsyniad rhanddeiliaid/perchnogion eiddo
Cysylltwch i ganfod sut y gallwn ni helpu eich sefydliad