Mae’n hanfodol bod y gweithiwr yn derbyn hyfforddiant digonol er mwyn gallu gwneud unrhyw waith sy’n cynnwys llifiau cadwyn yn ddiogel. Ers 5 Rhagfyr 1998, mae disgwyl i unrhyw un sy’n gweithio gyda llifiau cadwyn ar goed neu mewn coed fod â thystysgrif cymhwyster gallu sy’n berthnasol i’r gwaith y maen nhw’n ei wneud, gydag un eithriad (PUWER 98 Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Sut mae’r Rheoliadau’n berthnasol i amaethyddiaeth a choedwigaeth).
P’un a ydych chi’n weithredwr profiadol neu’n ystyried mynd i weithio yn y diwydiant coedyddiaeth o’r newydd, gall Is-adran Hyfforddiant Proarb ddarparu’r hyfforddiant sy’n sicrhau eich bod chi’n cydymffurfio â’r gyfraith ac yn defnyddio’r arferion gorau.
Mae Proarb yn darparu hyfforddiant mewn defnyddio llifiau cadwyn i bobl sy’n newydd i’r gwaith ac i staff coedwigaeth proffesiynol sy’n anelu am asesiadau NPTC. Mae ein holl gyrsiau hyfforddiant mewn llifiau cadwyn wedi eu cymeradwyo gan Lantra ac mae Asesiadau NPTC ar gael pan gwblheir y mwyafrif o gyrsiau.
• Cynnal a chadw coed gyda llif gadwyn a thrawslifio a thorri coed bychain hyd at 380 mm gan gynnwys defnyddio offer llaw i dynnu coed i lawr sydd wedi mynd ynghlwm (CS30/CS31).
• Torri coed maint canolig i lawr (380 i 760mm) gan ddefnyddio llif gadwyn, gan gynnwys defnyddio winsh i dynnu coed i lawr sydd wedi mynd ynghlwm (CS32).
• Torri coed mawr dros 760mm i lawr gyda llif gadwyn (CS33).
• Ymdrin â choed unigol sydd wedi eu chwythu gan y gwynt (CS34).
• Ymdrin â nifer o goed wedi eu chwythu gan y gwynt (CS35). Hyfforddiant mewn defnyddio llif gadwyn i ddefnyddwyr yn y cartref neu ddefnyddwyr hamdden – i bobl sydd eisiau dysgu sut i ddefnyddio a gofalu am lif gadwyn ar gyfer gwaith yn y cartref neu weithgareddau hamdden.
• Cwrs mewn cynnal a chadw coed gyda llif gadwyn a thrawslifio (LANTRA).
• Cwrs mewn technegau sylfaenol torri coed i lawr gyda llif gadwyn (LANTRA).
I gael rhagor o fanylion am ein cyrsiau, cysylltwch â Proarb.