Mae Proarb yn darparu gwasanaethau arbenigol mewn rheoli llystyfiant i nifer fawr o gleientiaid masnachol drwy Brydain gyfan. Ymysg y cleientiaid hyn mae: awdurdodau lleol, cwmnïau adeiladu, penseiri, peirianyddion sifil, cwmnïau trydanol a chyfleustodau, rheilffyrdd a phriffyrdd, cymdeithasau tai, Parciau Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a mudiadau elusennol eraill.