Polisi Preifatrwydd Busnes
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Proarb yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a rowch i ni pan fyddwch chi’n defnyddio’r wefan hon. Mae gan Proarb ymrwymiad i sicrhau ei fod yn diogelu eich preifatrwydd. Os byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth benodol i ni wrth ddefnyddio’r wefan hon fyddai’n gallu dangos i bobl pwy ydych chi, yna gallwch deimlo’n dawel eich meddwl y byddwn ni ond yn ei defnyddio yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn. Gallai Proarb newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech wirio’r dudalen o bryd i’w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Daeth y polisi hwn yn weithredol o 01/01/2008.
Yr hyn a gasglwn
Gallem gasglu’r wybodaeth a ganlyn:
Yr hyn a wnawn ni gyda’r wybodaeth a gasglwn
Rydyn ni angen yr wybodaeth i wneud gwaith ac i roi gwell gwasanaeth i chi, ac am y rhesymau a ganlyn:
Eich diogelwch
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. I rwystro unrhyw un rhag cael mynediad at eich gwybodaeth neu ei datgelu heb awdurdod, rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli addas yn eu lle i ddiogelu a sicrhau’r wybodaeth a gasglwn ar-lein.
Rheoli eich gwybodaeth bersonol
Gallech ddewis gwahardd eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei chasglu neu ei defnyddio fel hyn: pryd bynnag y gofynnir i chi lenwi ffurflen ar y wefan, chwiliwch am y blwch y gallwch ei glicio i ddangos nad ydych chi eisiau i’r wybodaeth gael ei defnyddio gan unrhyw un i bwrpasau marchnata uniongyrchol.
Os ydych chi wedi cytuno yn y gorffennol ein bod ni’n cael defnyddio eich gwybodaeth bersonol i bwrpasau marchnata uniongyrchol, gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy ysgrifennu neu anfon e-bost atom yn [email protected]. Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu neu brydlesu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti heblaw bod gennym eich caniatâd i wneud hynny neu os oes raid i ni wneud hynny yn gyfreithiol. Gallem ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon gwybodaeth hyrwyddo atoch am drydydd parti y credwn y gallech ei gael yn ddiddorol os byddwch yn dweud wrthym eich bod eisiau hynny. Gallech ofyn am fanylion gwybodaeth bersonol yr ydym yn ei dal amdanoch chi o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd ffi fechan yn daladwy. Os hoffech gopi o’r wybodaeth a ddaliwn amdanoch, ysgrifennwch at Proarb Ltd, Proarb House, Ffordd Abergele, Bodelwyddan, Y Rhyl, LL18 5WQ
Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth a ddaliwn amdanoch chi yn anghywir neu’n anghyflawn, ysgrifennwch atom neu anfonwch e-bost atom gynted ag y gallwch os gwelwch yn dda, yn y cyfeiriad uchod. Byddwn yn mynd ati ar unwaith i gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir.
YR WYBODAETH BERSONOL Y MAE’R WEFAN HON YN EI CHASGLU
A pham yr ydym yn ei chasglu
Mae’r wefan hon yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol am y rhesymau a ganlyn:
TRACIO YMWELIADAU Â’R WEFAN
Yn debyg i’r mwyafrif o wefannau, mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics (GA) i dracio rhyngweithiad y defnyddiwr. Rydym yn defnyddio’r data hwn i ganfod faint o bobl sy’n defnyddio ein safle, er mwyn deall yn well sut maen nhw’n cael hyd i’n tudalennau ar y we ac yn defnyddio’r tudalennau, ac i weld eu taith drwy’r wefan.
Er bod GA yn cofnodi data fel eich lleoliad daearyddol, eich dyfais, eich porwr gwe a’ch system weithredu, nid yw unrhyw ran o’r wybodaeth hon yn dangos i ni pwy ydych chi’n bersonol. Mae GA hefyd yn cofnodi cyfeiriad IP eich cyfrifiadur a allai gael ei ddefnyddio i ddangos pwy ydych chi, ond dydy Google ddim yn rhoi mynediad i ni at hyn. Rydym yn ystyried Google yn brosesydd data trydydd parti.
Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis, a gallwch weld manylion y rhain ar ganllawiau datblygwr Google. Er gwybodaeth i chi, mae ein gwefan yn defnyddio gweithrediad analytics.js GA.
Trwy analluogi cwcis ar eich porwr gwe byddwch yn atal Google Analytics rhag tracio unrhyw ran o’ch ymweliad â thudalennau o fewn y wefan hon.
Sut yr ydym yn defnyddio cwcis
Mae cwci yn ffeil fechan sy’n gofyn am ganiatâd i gael ei rhoi ar yriant caled eich cyfrifiadur. Unwaith y byddwch yn cytuno, mae’r ffeil yn cael ei hychwanegu ac mae’r cwci’n helpu i ddadansoddi’r traffig ar y we neu’n gadael i chi wybod pryd yr ydych yn ymweld â gwefan benodol. Mae cwcis yn gadael i raglenni ar y we ymateb i chi fel unigolyn. Gall y rhaglen ar y we deilwra ei gweithrediadau i’ch anghenion chi a’r pethau yr ydych ac nad ydych yn eu hoffi drwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau. Rydym yn defnyddio cwcis cofnodi traffig i ganfod pa dudalennau sy’n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data am draffig y dudalen ar y we a gwella ein gwefan er mwyn ei theilwra i anghenion y cwsmer. Dydyn ni ond yn defnyddio’r wybodaeth hon i bwrpasau dadansoddi ystadegol ac yna mae’r data’n cael ei dynnu o’r system. Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein helpu ni i roi gwell gwefan i chi, drwy ein galluogi ni i fonitro pa dudalennau yr ydych yn eu cael yn ddefnyddiol a pha rai rydych chi’n dewis peidio eu darllen. Dydy cwci ddim yn rhoi mynediad i ni at eich cyfrifiadur mewn unrhyw ffordd nac at unrhyw wybodaeth amdanoch chi, heblaw’r data y dewiswch ei rannu gyda ni. Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae’r mwyafrif o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond gallwch fel arfer addasu gosodiad eich porwr i wrthod cwcis os dewiswch. Gallai hyn eich atal rhag cymryd mantais lawn o’r wefan.
FFURFLENNI CYSYLLTU A DOLENNI E-BOST
Os byddwch chi’n dewis cysylltu â ni gan ddefnyddio’r ffurflen gysylltu ar ein tudalen ‘Cysylltu â ni’ neu gan ddefnyddio dolen e-bost, ni fydd unrhyw ran o’r data a ddarparwch yn cael ei storio gan y wefan hon na’i basio i/ei brosesu gan unrhyw brosesydd data trydydd parti.
Yn lle hynny, bydd y data’n cael ei gasglu mewn un e-bost a’i anfon atom ni dros y Protocol Trosglwyddo Post Syml (SMTP). Mae ein gweinyddion SMTP wedi eu diogelu gan TLS (sy’n cael ei alw’n SSL weithiau) sy’n golygu bod cynnwys yr e-bost wedi ei amgryptio gan ddefnyddio SHA-2, sef cryptograffi 256-bit cyn cael ei anfon ar draws y rhyngrwyd. Yna mae cynnwys yr e-bost yn cael ei ddadgryptio gan ein cyfrifiaduron a dyfeisiau lleol.
Rydym hefyd yn dal manylion ar ein cyfrifiaduron sy’n ymwneud â’r wybodaeth a rowch i ni ar ein ffurflenni cysylltu neu ddolenni e-bost. Rydym yn gwneud hyn er mwyn ateb eich ymholiad.
Os nad ydych chi eisiau i ni gadw unrhyw rai o’ch manylion ar ffeil, rhowch wybod i ni.
Dydyn ni ddim yn cyfnewid, gwerthu, rhentu na rhoi eich cyfeiriad e-bost nac unrhyw rai o’ch manylion eraill i gwmnïau eraill.
PROSESYDDION DATA TRYDYDD PARTI
Rydym yn defnyddio nifer o drydydd partïon i brosesu data personol ar ein rhan ac rydym wedi dewis y trydydd partïon hyn yn ofalus. Mae’r ddau drydydd parti hyn wedi eu seilio yn yr Unol Daleithiau ac yn cydymffurfio â Tharian Preifatrwydd UE-UD.
MYNEDIAD DIAWDURDOD AT DDATA
Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw fynediad diawdurdod at ddata ar gronfa ddata’r wefan hon, neu gronfa/gronfeydd data unrhyw un o’n prosesyddion data trydydd parti, i unrhyw un neu bob un o’r bobl a’r awdurdodau perthnasol o fewn 72 awr i’r mynediad diawdurdod os yw’n amlwg bod data personol sydd wedi ei storio mewn ffordd y gellir ei ddarllen wedi cael ei ddwyn.
RHEOLYDD DATA
Rheolydd data’r wefan hon yw: Proarb Ltd
AMGRYPTIAD SSL
Mae’r holl draffig (trosglwyddo ffeiliau) rhwng y wefan hon a’ch porwr wedi ei amgryptio a’i ddarparu dros HTTPS
STORIO DATA
Defnyddiwch ein tudalen gysylltu i ofyn unrhyw beth arall i ni am ein systemau diogelu data.