
Clefyd Llwyfen yr Iseldiroedd yw un o’r clefydau coed mwyaf difrifol yn y byd. Mae wedi lladd mwy na 60 miliwn o lwyfenni Prydeinig mewn dau epidemig ac mae’n parhau i ledaenu heddiw.
Derbyniodd Proarb brosiect yn ddiweddar i dynnu rhes o goed Llwyfen oedd wedi marw o glefyd Llwyfen yr Iseldiroedd yn ardal y Rhyl ar ran Cyngor Sir Ddinbych. Os byddai’r coed hyn wedi parhau i sefyll, heb i unrhyw un ganfod y clefyd, byddent yn sicr wedi effeithio ar yr ardal o’u cwmpas.
Am nad oedd llawer o le i fynd at y coed am eu bod nhw’n agos at dai trigolion lleol ac ardal y Cyt fel y mae pobl leol yn ei galw, roedd angen gwneud gwaith manwl gywir ar gyfer y prosiect hwn gyda Llwyfan Weithio Uchel a Symudol i dynnu’r darnau’n ddiogel mewn adrannau bach. Mae Clefyd Llwyfen yr Iseldiroedd yn gwneud y coed yn beryglus i’w dringo felly roedd llwyddiant y prosiect yn dibynnu ar beiriannau arbenigol i gyrraedd canopi’r coed.
4. Mae’r cyffion sydd wedi eu heffeithio’n gwywo o’r blaen yn ôl
5. Weithiau mae brigau’n troi tua i lawr i ffurfio ‘ffyn bugail’
6. Mae gan frigau linellau tywyll yn y pren allanol o dan y rhisgl, neu smotiau neu gylchoedd yn eu trawstoriad