Prosiectau coedyddiaeth ledled Gogledd Cymru a Gogledd Orlllewin Lloegr

 

A ninnau wedi ein lleoli’n ganolog yn Sir Ddinbych, Gogledd Cymru, rydyn ni’n ffodus bod ein gwaith yn ein cymryd i ardaloedd hynod o brydferth sy’n ymestyn ar brydiau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Ar hyn o bryd, mae llawer o’n prosiectau wedi eu canolbwyntio’n fawr o amgylch Gogledd Cymru a rhanbarth Gogeld Orllewin Lloegr.

Efallai eich bod wedi gweld ein faniau yn eich ardal?

P’un a ydyn ni’n gweithio gyda rhwydweithiau ynni Scottish Power i reoli llystyfiant er mwyn gwella perfformiad y rhwydweithiau pŵer uwch ben neu gyda chynghorau sir i ymdrin â chlefydau coed cyffredin fel Clefyd y Coed Ynn, mae ein gwaith yn amrywiol a chymhleth.

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gweithio ym Mhen Llŷn ar reoli llystyfiant o amgylch y rhwydweithiau ynni gyda SPEN. Efallai eich bod wedi gweld ein faniau yn ardal Criccieth?

Gerllaw, yn ardal Ganllwyd, rydyn ni wedi bod yn gweithio ar brosiect sy’n sentsitif i’r ecoleg mewn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Am fod anifeiliaid a phlanigion sy’n cael eu diogelu i’w cael yn yr ardal hon, yn cynnwys dyfrgwn ac ystlumod, ac am fod y coed yn agos at y dŵr, rydyn ni wedi defnyddio gwasanaethau Enfys Ecology i roi goruchwyliaeth ecolegol i’r prosiect hwn.

Yn fwy lleol i’n Pencadlys yn Sir Ddinbych, mae gennym brosiectau torri ar waith yn ardal Mynydd Helygain ac rydym newydd gwblhau prosiect i drin coed oedd â Chlefyd Llwyfen yr Iseldiroedd yn y Rhyl. Rydym hefyd yn gwneud arolygon coed am Linellau Pŵer Uwchben ym Mhenarlâg, Sir y Fflint.

Er bod llawer o’n gwaith yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gennym brosiectau torri ar waith yn Northwich ac arolygon pellach yn Formby ac Amwythig.

Mae tîm Proarb yn gwbl gymwysedig ym mhob agwedd o reoli llystyfiant ac ymgynghoriaeth sy’n golygu bod ein prosiectau’n amrywiol ac yn ein cymryd i ardaloedd pellac agos. Rydym wedi darparu gwasanaethau o safon yn gyson, gan sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r holl safonau iechyd, diogelwch ac ansawdd ac amgylchedd sydd wedi golygu bod Proarb yn cael ei ystyried yn un o gwmnïau rheoli llystyfiant arweiniol y Deyrnas Unedig.