
Yn ystod ein cyfarfod diweddar o’r Grŵp Gwella Contractwyr a gynhaliwyd gan Scottish Power Energy Networks yn Wrecsam ar 10fed Hydref, siaradodd Stewart Perry o’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn fanwl am y Rheolioadau Gweithio ar Uchder a’r pryder am weithredu Rheoliadau Gweithio ar Uchder 2015 yn y Diwydiant Coedyddiaeth.
Er mai anghyffredin iawn yw’r achosion o hynny, mae dringwyr sy’n defnyddio system un rhaff yn dal i sythio o uchder. Mae’r diwydiant yn canolbwyntio erbyn hyn ar wneud y system ddringo ddwy raff yn system safonol er mwyn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau Gweithio ar Ucher ac i ostwng achosion o syrthio o uchder.
Mae gan Proarb agwedd ragweithiol tuag at ddatblygiadau a thechnegau yn y diwydiant ac maen nhw wedi chwarae rhan ymarferol bob amser mewn datblygu technegau dringo modern.
Mae Huw Roberts, Rheolwr HSEQ Proarb a nifer o ddringwyr Proarb wedi bod yn defnyddio system dwy raff ers 2 flynedd erbyn hyn gyda’r bwruad o ganfod a yw hi’n ymarferol mabwysiadu’r system ar draws y diwydiant ac a allai weithio o ddydd i ddydd.
“Mae iechyd a diogewlch ein tim o’r pwysigrwydd mwyaf i ni. Rydym yn cydnabod bod disgwyl i ni gydymffurfio gyda’r rheoliadau cyfredol ymhob agwedd o’n gweithgareddau ac rydym yn ymdrechu i sicrhau hynny ar draws y busnes.”