Ensuring HSEQ through Workflow App

Trwy gyfrwng eu ffonau clyfar ac ipads, mae’r ap newydd ‘Proarb Work Smart’ yn galluogi i holl weithwyr Proarb gwblhau amrywiaeth o dasgau a oedd gynt wedi eu seilio ar bapur,  yn cynnwys: cwblhau taflenni amser dyddiol, cofnodi gwirioadau dyddiol ar gerbydau a pheiriannau. Hefyd, mae’r ap yn gadael i’r holl weithwyr weld tystysgrifiau o allu ar gyfer yr holl staff a gallent weld cofnodion cynnal a chadw peiriannau ar gyfer holl gyfarpar, cerbydau ac offer y cwmni. Gall y staff hefyd weld holl ddogfennau HSEQ y cwmni drwy’r ap.

I’r staff sy’n torri coed allan ar y safleoedd, mae’r ap yn gadael i’r gweithwyr anfon a derbyn cynlluniau a phecynau gwaith, cwblhau asesiadau risg ar y safle, llofnodi swyddi unwaith maen nhw wedi eu cwblhau a gwneud arolygon o foddhad y cleient ar y safle. Mae canlyniadau’r arolygon yn cale eu llwytho’n awtoamtig drwy’r ap i’r tîm rheoli yn y brif swyddfa,

Cafodd yr ap hefyd ei lunio i’w ddefnyddio ar gyfer gwaith tirfesur y busnes ac mae’n hwyluso, ymysg pethau eraill, y gwaith o fesur a chofnodi llystyfiant sy’n effeithio ar linellau uwch ben Scottish Power Energy Network, cofnodi manylion perchnogion tir/grantwyr a sicrhau llofnodion digidol gan grantwyr. Mae ganddo allu mewnol i anfon copi o ffurflenni caniatâd wedi eu llofnodi at grantwyr yn syth o’r ap.

“Pan mae staff Proarb yn gweithio ar y safle mewn ardaloedd anghysbell, mae’n bwysig eu bod yn gallu cael gafael ar ddogfenaeth iechyd a diogelwch bwysig. Mae’r ap newydd wedi chwyldroi’r ffordd yr ydym yn gweithio. Rydym yn gweithio’n gyflymach, yn fwy diogel ac yn fwy clyfar. Peth hen ffasiwn yw printio erbyn hyn!”. Mae’r ap, a grewyd gan y cyfarwyddwr John Paul Williams, wedi sicrhau bod gan bawb y gallu i gael gafael ar wybodaeth allweddol yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a thasgau hyd yn oed pan maen nhw all-lein.

“Mae Proarb wedi ymrwymo’n llawn i sicrhau bod ei reolaeth ar iechyd, diogelwch, ansawdd a materion amgylcheddol oll o’r safon uchaf. Mae’r ap newydd wedi gadael i ni weithredu’r arferion gorau ar y safle ac oddi ar y safle,” esboniodd y Rheolwr HSEQ, Huw Roberts.