Cyflwynwn y Flailbot newydd

Proarb yn buddsoddi mewn peiriant chwilfriwio sy'n gweithio o bell

Flail BotMae Proarb yn buddsoddi’n rheolaidd mewn peiriannau newydd sy’n ein galluogi ni i weithio mewn ffordd fwy effeithlon gan sicrhau gwell diogelwch ar dir anodd. Dyma Huw Roberts (ar y dde uchod) rheolwr HSEQ Proarb yn derbyn y peiriant Bomford Flailbot gydag Eric Harrison (at y chwith uchod) o Harrison Machinery (Rhuthun) sef yr Asiant Bomford ar gyfer yr ardal hon.

Mae’r Flailbot newydd y gallwn ei reol o bell yn gadael i ni weitho ar  dir serth (hyd at 55 gradd o oledd) o le diogel gan dynnu eithin a llystyfiant annymunol yn effeithiol. “Mae’r peiriant chwilfriwfio hwn sy’n gweithio o bell yn cynnig rheolaeth effeithiol, cyflym a diogel ar y llystyfiant ar diroedd serth, anghysbell a heriol,” esboniodd Huw Roberts, Rheolwr HSEQ.

“Mae hwn yn gam arall ymlaen yn ein nod parhaus i gynnig gwasanaethau cost effeithiol yn y diwydiant rheoli llystyfiant,” esboniodd John Paul Williams, cyfarwyddwr Proarb Ltd. “Am fod diogelwch ein gweithwyr a’r bobl sy’n cael eu heffeithio gan y gweithgareddau’n hollbwysig, mae’r Flailbot yn ddarn chwydroadol o offer a fydd yn newid y ffordd yr ydym yn tynnu llystyfiant annymunol o dir serth,”