Darparu gwasanaethau rheoli llystyfiant o safon i berchnogion cartrefi

Meddygon coed domestig yng Ngogledd Cymru

Coedyddiaeth yn y cartref

Mae ein hamrywiaeth o wasanaethau'n cynnwys:
  • Gostwng corunau coed
  • Teneuo corunau coed
  • Codi corunau coed
  • Torri coeden bob yn ddarn
  • Torri coed i lawr
  • Gwaith ar wrychoedd
  • Llifanu bonion
  • Chwilfriwio
Unrhyw fater arall yn ymwneud â choed/llystyfiant - rhowch alwad i Proarb!

Mae’n gallu bod yn anodd dewis triniwr coed (meddyg coed) i wneud gwaith ar goed eich eiddo  – mae cymaint o ddewis am fod nifer fawr ohonyn nhw’n hysbysebu yn y wasg leol. Dylai perchnogion tir ystyried:

 

  • A oes gan y cwmni ddiogelwch Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr
  • A oes gan eu gweithwyr gymwysterau’r Cyngor Profi Medrusrwydd Cenedlaethol sy’n berthnasol i’r gweithgareddau tocio y maen nhw’n eu gwneud
  • Ydyn nhw’n rhoi dyfynbris y maen nhw’n mynd i gadw ato, ynghyd â’r gwarant cysylltiedig o safon
  • Ydyn nhw’n aelodau o sefydliad masnach cydnabyddedig
  • Ydyn nhw’n gwneud eu gwaith tocio i Safonau Prydeinig BS3998