Rydyn ni wedi defnyddio gwasanaethau Proarb ers blynyddoedd lawer ac maen nhw wedi darparu gwasanaethau adweithiol i ni yn ystod, ac yn dilyn, cyfnodau o dywydd drwg; maen nhw wedi gwneud gwaith a drefnwyd gennym oedd yn hynod o dechnegol ac arbenigol; maen nhw hefyd wedi rhoi cyngor i ni am arferion da a sut i reoli ein stoc goed. Dw i’n ystyried y cwmni’n awdurdod yn y maes a byddwn yn argymell bod unrhyw un sy’n chwilio am wasanaeth yn y maes hwn yn defnyddio’r cwmni yma.
Drew Tait
Cydlynydd Gwasanaethau Stryd Prestatyn a Gallt Melyd
Cyngor Sir Ddinbych
Mae Proarb wedi gweithio gyda ni ar nifer o gynlluniau, ac yn cael eu hystyried yn un o’n Is-gontractwyr Partner. Maen nhw wedi bod yn gystadleuol a dibynadwy bob amser ac wedi cwblhau’r gwaith yn brydlon ac yn ddiogel.
David Wynne
Syrfëwr Meintiau
Wynne Construction
Roeddwn i eisiau anfon e-bost i ddweud “Diolch o galon”. Daeth eich is-gontractiwr i’r safle a thynnu’r coed ac maen nhw wedi gwneud gwaith gwych. Allwch chi basio fy niolch i bawb a gyfrannodd os gwelwch yn dda — dydy pobl ddim yn dangos eu gwerthfawrogiad ddigon y dyddiau hyn.
Un o’r trigolion lleol
Cyngor Sir y Fflint
Mae cymaint o oleuni’n dod i mewn i’r ardd erbyn hyn, doeddwn i erioed wedi disgwyl hynny. Byddwn ni’n gallu gwneud defnydd llawn o’n gardd nawr. Roedd hi’n bleser cael y cwmni yma i wneud y gwaith. Roedden nhw’n gwrtais, yn effeithlon ac wedi tacluso ar eu holau.
Un o’r trigolion lleol
Cyngor Sir y Fflint
Gwych – bob tro rydyn ni wedi defnyddio Proarb maen nhw wedi gwneud yn union beth sydd ei angen ac wedi gweithio’n daclus, yn effeithlon ac yn rhagweithiol.
Roedd eich gweithwyr yn brydlon, cwrtais, eithriadol o effeithlon a chyflym iawn yn gwneud y gwaith a chlirio wedyn – fel y maen nhw bob tro.
Gwasanaeth effeithlon a phroffesiynol, a gwaith clirio gwych wedyn!
Roedd eich tîm yn ystyriol a pharod iawn i helpu. Wnewch chi ddiolch o galon iddyn nhw os gwelwch yn dda. Gwnaethon nhw eu gwaith mewn ffordd hynod o effeithlon.
Gwasanaeth gwych gyda gweithwyr cwrtais, dymunol ac effeithlon. Allwn ni ddim meddwl am unrhyw ffordd y gallech chi wella’r gwasanaeth – hollol fodlon!!
Roeddwn i’n hynod o hapus gyda’ch gwasanaeth, roedd y gweithiwr ar y ‘llifanydd’ mor fedrus yn ei waith. Roedd yn benderfynol o dynnu’r bonyn er bod y dasg yn anodd tu hwnt. Roedd yn gwrtais a gadawodd y lle yn daclus wedyn. Rydw i’n teimlo cywilydd bron nad ydy’r ‘bil’ yn adlewyrchu’r gwaith a wnaethant. Da iawn Proarb!