

Mae’n anrhydedd bob amser i weithio ar brosiectau ym Mharc Cenedlaethol Eryri mewn lleoliadau prydferth fel Llyn Geirionydd gerllaw Llanwrst yn enwedig am fod yr ardal hon yn rhan o fenter planu coed o’r enw Plant!
Yn 2008, addunedodd Llywodraeth Cymru i blannu coeden lydanddail sy’n frodorol i Gymru ar gyfer pob plentyn a aned neu a fabwysiadwyd yng Nghymru. Enw’r cynllun yw Plant! – i gyfleu’r planu yn Saesneg a’r plant yn Gymraeg. Bob mis, mae Cyfoeth Naturiol Cyrmu, sy’n cynnal y rhaglen ar ran Llywodraeth Cymru a Choed Cadw, yn derbyn gwybodaeth am y nifer o fabanod a aned ac a fabwysiadwyd yng Nghymru ac yn trefnu i gymysgedd o goed dail llydan brodol gael eu plannu, yn cynnwys derw, ynn, bedw, ceirios, criafol a helyg, Mae pob baban yn cael gwybod ymhle mae’r coetir sy’n cynnwys eu coeden gyda thystysgrif yn fuan ar ôl eu genedigaeth neu fabwysiad, yn nodi bod coeden wedi cael ei phlannu iddyn nhw.
Dim ond saith safle yng Nghymru sydd wedi rhoi’r fenter hon ar waith. Mae Llyn Geirionydd yn arbennig yn y ffaith bod coeden wedi ei phlannu ar ran genedigaeth y Tywysog George yn 2013 i anrhydeddu’r amser a dreuliwyd gan Ddug a Duges Caergrawnt yn yr ardal.